RHWYDWAITH YMCHWIL TRAIS YN ERBYN MENYWOD, CAM-DRIN DOMESTIG A THRAIS RHYWIOL CYMRU: PENNU'R BLAENORIAETHAU YMCHWIL AR GYFER CYMRU: Adroddiad Terfynol

Research output: Book/ReportOther reportpeer-review

41 Downloads (Pure)

Abstract

Cefndir a nod

Sicrhaodd ymchwilwyr ym Mhrifysgol De Cymru (PDC) gyllid mewnol drwy Gyfadran Busnes a Diwydiannau Creadigol (BDC) PDC, i gynnal astudiaeth gyntaf Rhwydwaith Ymchwil Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV) Cymru. Wedi'i lansio ym mis Tachwedd 2021, nod Rhwydwaith Ymchwil VAWDASV Cymru yw creu cymuned ymchwil gynhwysol i Gymru sy'n darparu fforwm diogel ac agored i ddwyn y rhai sy'n gweithio tuag at ddileu VAWDASV ynghyd i bennu agenda ymchwil y dyfodol, meithrin cydweithredu a datblygu ceisiadau grant, ymgymryd ag ymchwil o ansawdd uchel, a gweithio tuag at ddileu VAWDASV.

Gan ddefnyddio dull Mapio Cysyniadau Grŵp (MCG), dull consensws ar-lein, nod yr astudiaeth oedd archwilio a chyd-gynhyrchu blaenoriaethau ymchwil VAWDASV ar gyfer y sector yng Nghymru gyda gweithwyr proffesiynol VAWDASV arbenigol ac anarbenigol, gweithwyr proffesiynol eraill yn y sector, llunwyr polisi ac academyddion ledled Cymru. At ddibenion yr ymchwil hon, rydym yn defnyddio gweithwyr proffesiynol yn y sector fel term cynhwysol sy'n cynnwys gweithwyr cyflogedig a di-dâl, goroeswyr a grwpiau wedi’u harwain gan oroeswyr. Bwriad canfyddiadau'r astudiaeth hon yw llywio gwaith Rhwydwaith Ymchwil VAWDASV Cymru yn y dyfodol, cyfrannu at bolisi ac arfer presennol, a chefnogi penderfyniadau comisiynu yn y dyfodol.

Cyd-destun polisi/tirwedd

Mae VAWDASV yn broblem iechyd cyhoeddus a gofal cymdeithasol fawr, ac yn fater cyfiawnder troseddol a hawliau dynol, gydag amrywiaeth o ganlyniadau andwyol i iechyd a lles gydol oes (Addis a Snowdon, 2021). Cydnabyddir amrywiaeth o fathau o drais o fewn y term VAWDASV, mae'r rhain yn cynnwys trais ar sail rhyw (GBV); trais gan bartner agos (IPV); trais a cham-drin domestig (DVA); trais a cham-drin rhywiol (SVA); rheolaeth drwy orfodaeth; priodas dan orfod; priodas plant; cam-drin er anrhydedd honedig (HBA); anffurfio organau rhywiol benywod (FGM); masnachu mewn pobl; aflonyddu rhywiol; aflonyddu seiber; a thrais dêtio’r arddegau (ADV). Defnyddir llawer o'r termau hyn fel termau ymbarél ac nid ydynt yn annibynnol ar ei gilydd (Addis a Snowdon, 2021). Mae gan VAWDASV ganlyniadau niweidiol sylweddol fel iechyd meddwl a chorfforol yn dirywio, ansawdd bywyd is (e.e., digartrefedd, tlodi, ynysu a chamddefnyddio sylweddau), marwolaethau, ac mae'n amharu'n sylweddol ar blant. Gall unrhyw un waeth beth fo'i ryw, oedran, ethnigrwydd, rhyw, rhywioldeb, anabledd, crefydd neu gred, incwm, daearyddiaeth, neu ffordd o fyw brofi VAWDASV (Llywodraeth Cymru, 2016); mae'n effeithio ar bob cymuned ac ardal.

Yn y flwyddyn ddaeth i ben yn 2020, nododd Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr fod 5.5% (2.3 miliwn) o oedolion wedi profi cam-drin domestig yn y flwyddyn flaenorol (SYG, 2020). Mae hyn yn debygol o fod yn llawer is na'r gwir ffigurau gan fod yr ystadegau’n dibynnu ar ddadansoddi data cyfiawnder troseddol, fydd yn eithrio pawb sy'n wynebu rhwystrau sy'n eu hatal rhag adrodd am VAWDASV. Mae profiad yn dangos bod hyn yn achosi tanadrodd sylweddol. Nid yw’r ffigurau ychwaith yn ystyried dioddefwyr eilaidd, fel rhai sy'n dystion i gamdriniaeth a theuluoedd a rhwydweithiau estynedig ehangach. Yn yr un modd, nid yw'r ffigurau hyn yn cyfrif am unrhyw un o dan 16 oed neu dros 74 oed, ac nid ydynt ychwaith yn adlewyrchu'r cynnydd a gofnodwyd mewn VAWDASV yn ystod y pandemig COVID-19 parhaus, a ddechreuodd yn 2020. Arweiniodd annibynadwyedd y ffigurau at Gymorth i Fenywod (dim dyddiad) yn tynnu sylw at absenoldeb "data dibynadwy ar gam-drin domestig". Mae adroddiad a gomisiynwyd gan Swyddfa Gartref y DU yn amcangyfrif bod cost economaidd a chymdeithasol cam-drin domestig yng Nghymru a Lloegr yn £66 biliwn y flwyddyn (Oliver et al 2019). Er gwaethaf cyfyngiadau'r data, gwyddom y gall mynd i'r afael â VAWDASV wella iechyd a lles unigolion a chymunedau a gall gael effeithio’n gadarnhaol ar yr economi a chymdeithas (Addis a Snowdon, 2021), a bod 'y gost, yn nhermau dynol ac economaidd mor sylweddol fel bod hyd yn oed ymyriadau sydd ond ychydig yn effeithiol yn gost-effeithiol' (NICE, 2014).

Mae dileu VAWDASV yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru (LlC). Dilynwyd 'Deddf VAWDASV (Cymru) 2015’ (LlC, 2015) gan y 'Strategaeth Genedlaethol' (LlC, 2016). Roedd hyn ar flaen y gad yn y DU, a Chymru oedd y wlad gyntaf i basio Deddf VAWDASV bwrpasol. Mae'r Ddeddf wedi'i llunio o amgylch dyletswyddau penodol, sydd ar waith ar gyfer Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, Byrddau Iechyd, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, Cynghorydd Cenedlaethol Cymru, ac "awdurdodau perthnasol" eraill (LlC, 2015). Ers cyflwyno'r Ddeddf, mae cynnydd sylweddol wedi'i wneud yng Nghymru, a nodir mewn adroddiadau blynyddol gan y Cynghorydd Cenedlaethol (LlC, 2020). Mae 'Strategaeth Genedlaethol VAWDASV (2022-26)', a ailwampiwyd gan LlC, yn ceisio mabwysiadu dull Cymru gyfan o ddileu VAWDASV gyda'r nod o "wneud Cymru'r lle mwyaf diogel i fod yn fenyw" (LlC, 2022). Mae croestoriadedd thwng y Ddeddf a nifer o feysydd polisi a chyfreithiau eraill, wedi'u datganoli a heb eu datganoli, yn fwyaf nodedig ym meysydd iechyd a gofal cymdeithasol, addysg a chyfiawnder troseddol; yn arbennig o berthnasol mae 'Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014', a 'Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015' (LlC, 2015b). Mae cyd-gynhyrchu a chydweithio yn sail i'r holl feysydd deddfwriaeth hyn ac maent wedi'u hymgorffori yn Neddf VAWDASV a 'VAWDASV: cynllun blynyddol y cynghorydd, cenedlaethol 2021 i 2022', sy'n cynnwys yr amcan allweddol o sicrhau "proses ddwys o ymgynghori â'r rhai yr effeithir arnynt gan y troseddau a'r ymddygiadau hyn a'r rhai sy'n gweithio i atal hyn rhag digwydd." (2020 , t. 5).
Original languageWelsh
PublisherUniversity of South Wales
Number of pages40
Publication statusPublished - Sept 2022

Cite this