Prosiect Canfyddiadau Cymry Cymraeg am Bresgripsiwn Cymdeithasol

Translated title of the contribution: The perceptions of Welsh speakers about social prescribing project

Llinos Haf Spencer, Simon Newstead*

*Corresponding author for this work

Research output: Contribution to conferencePosterpeer-review

Abstract

Crynodeb Cymraeg
Cefndir:
Cafodd fframwaith presgripsiynu cymdeithasol Cymru ei lansio yn 2023 (Llywodraeth Cymru, 2023), ond beth yw canfyddiadau Cymry Cymraeg am bresgripsiwn cymdeithasol? Nod yr ymchwil ansoddol yma yw i ddeall barn siaradwyr Cymraeg am beth ydi presgripsiwn cymdeithasol.
Dull:
Cynhaliwyd gweithdai wyneb yn wyneb ac ar-lein i ganfod canfyddiadau Cymry Cymraeg am bresgripsiwn cymdeithasol. Cynhaliwyd y gweithdai wyneb yn wyneb ym Mangor a Phontypridd gyda gwirfoddolwyr oedd wedi cael eu recriwtio gan y brif ymchwilydd. Roedd hefyd cyfweliadau ar-lein ar gyfer y rhai oedd yn methu mynychu y digwyddiadau wyneb yn wyneb. I gyd, daeth n=5 o bobl i’r sesiynau wyneb yn wyneb ym mis Mai 2024, a daeth n=9 o bobl i’r gweithdai ar-lein ym Mis Mai a Mehefin 2024. Cafodd y pedwar gweithdy eu recordio ar ffeil sain neu ar Teams a cafwyd trawsgrifiad gair am air ar gyfer bob un o’r gweithdai.
Canfyddiadau:
Roedd amrywiaeth eang o ganfyddiadau o bresgripsiwn cymdeithasol yng Nghymru. Roedd rhai yn deall y broses atgyfeirio gan weithiwr cyswllt, ond roedd rhai yn dysgu am y cysyniad o atgyfeirio cymdeithasol am y tro cyntaf yn ystod y gweithdy.
Casgliadau:
Mae angen addysgu siaradwyr Cymraeg yng Nghymru am nodweddion a buddion presgripsiwn cymdeithasol. Os nad ydi pobl yn gwybod am ei fodolaeth, ni fyddant yn ceisio cael eu cyfeirio neu hunangyfeirio.
Argymhellion ar gyfer polisi:
Mae angen codi proffil presgripsiwn cymdeithasol yng Nghymru. Gellid hwyluso hyn drwy helpu pobl i ddeall y manteision atodol a/neu ragataliol y gall ymgysylltu â phresgripsiwn cymdeithasol gael ar iechyd a lles a sut y gall hyn leihau straen ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG). Mae angen i’r cyhoedd yng Nghymru wybod bod ystod eang o weithgareddau presgripsiwn cymdeithasol ar gael a bod gweithwyr cyswllt presgripsiwn cymdeithasol yn gysylltiedig â llawer o glinigau Meddygon Teulu ledled Cymru a bod hunangyfeirio at weithiwr cyswllt hefyd yn bosibl.

Allweddeiriau: Presgripsiwn cymdeithasol, canfyddiadau, Cymry, Cymraeg; grwpiau cymdeithasol, gweithiwr cyswllt; asedau cymunedol.

Translated title of the contributionThe perceptions of Welsh speakers about social prescribing project
Original languageWelsh
Publication statusPublished - 4 Dec 2024

Keywords

  • Presgripsiwn cymdeithasol
  • gweithiwr cyswllt
  • Cymry Cymraeg
  • hunangyfeirio
  • atgyfeiriad

Cite this