Gwlad yr Asyn

Translated title of the contribution: Donkeyland

Wyn Mason

    Research output: Other contribution

    Abstract

    Mae Ari yn asyn ifanc sy'n credu bod hi'n berson: mae hi'n ceisio osgoi cwmni asynnod eraill a breuddwydio am fod yn fod dynol. Sioe un fenyw yw Donkeyland sy'n archwilio'r themâu o hunaniaeth, annibyniaeth a'r berthynas ecsbloetiol rhwng dynoliaeth ac anifeiliaid. Mae'r ddrama yn lled-addasiad o The Tempest gan Shakespeare, lle mae cymeriadau Ariel a Caliban yn asynnod, a'u perchnogion yn ddynol: tad a merch, Prospero a Miranda. Mae yna ddau nod i'r darn: ail-ystyried drama Shakespeare o safbwynt Cymreig ac eco-ganolog. Mae'r ddrama yn gosod cymeriadau archdeipaidd The Tempest yng nghyd-destun Cymru ôl-drefedigaethol; ac, yn yr un modd, wrth ganolbwyntio ar y berthynas rhwng pobl ac anifeiliaid, mae'r darn hefyd yn ystyried y pryder ehangach, ecolegol o sut mae dynoliaeth yn parhau i ecsboletio natur.
    Translated title of the contributionDonkeyland
    Original languageWelsh
    Number of pages60
    Publication statusIn preparation - Aug 2020

    Cite this