Abstract
Bydd y seminar hwn yn trafod fy mhroses o gyd-weithio gyda'r crochenydd Lowri Davies er mwyn creu a chynnal Bregus, digwyddiad perfformiadol safle-benodol. Perfformiwyd Bregus yn wreiddiol adeg Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018 yn festri capel Tabernacl yr Ais yng Nghaerdydd, ac rydym wedi ei gyflwyno i gynulleidfaoedd gwahanol yn yr un lleoliad ers hynny. Bydd y seminar yn adlewyrchu hefyd ar rai o themâu ehangach y perfformiad sef rôl y fenyw o fewn cymuned y capel Cymraeg, ac o fewn cymdeithas Gymreig yn ehangach. Adlewyrchir hefyd ar allu’r perfformiad fel cyfrwng i gyfathrebu gyda chynulleidfaoedd o fewn y capel, a thrafodir ymateb gwahanol gynulleidfaoedd i'r darn.
Original language | Welsh |
---|---|
Publication status | Published - 6 Mar 2019 |
Event | Seminar Ymchwil: Canolfan Astudio'r Cyfryngau a Diwylliant mewn Cenhedloedd Bach - Atrium, Prifysgol De Cymru, Caerdydd Duration: 6 Mar 2019 → … |
Seminar
Seminar | Seminar Ymchwil |
---|---|
Abbreviated title | Bergs: y capel, y cwpan, y cyan |
City | Caerdydd |
Period | 6/03/19 → … |