Crynodeb
Pwrpas y gwaith hwn yw cofnodi hanes Cynllun Cymreig Sefydliad Bernard van Leer ac asesu ei gyfraniad i nifer o ardaloedd difreintiedig yn Ne-Ddwyrain Cymru.'Roedd angen disgrifio cefndir a natur Sefydliad Bernard van Leer am nad oedd llawer yn hysbys amdano yng Nghymru ar y pryd. Hefyd, 'roedd yn rhaid cofnodi hanes y Cynllun ei hun cyn mynd ati i ddadansoddi ei ragoriaethau a'i
wendidau.
Y cam nesaf oedd dadansoddi'r perthynas rhwng y ddau sefydliad oedd ynghlwm wrth y Cynllun, sef derbynnydd y grant, Mudiad Ysgolion Meithrin a'r noddwr, Sefydliad Bernard van Leer. Datguddiwyd dau sefydliad ag amcanion cryn dipyn yn wahanol i'w gilydd a chreodd y gwahaniaethau hyn dyndra parhaus o fewn y Cynllun.
Am mai un o brif amcanion y Cynllun oedd cynyddu nifer y gweithwyr para-broffesiynol yn rhwydwaith cylchoedd chwarae Mudiad Ysgolion Meithrin penderfynwyd y dylid pwyso a mesur y problemau hyfforddi a wynebai'r Prosiect.
Y mae'r cyfraniad gweladwy a wnaed gan y Cynllun yn un eithaf sylweddol oherwydd bod nifer o gylchoedd chwarae Cymraeg wedi'u sefydlu gan y gweithwyr maes a hyfforddodd eu harweinyddion presennol. Yn ogystal a hyn, lluniwyd
cyfres o ddeunyddiau dysgu Cymraeg a oedd yn addas i rieni eu defnyddio gyda'u plant.
Gallai nifer o'r gwersi cyffredinol a ddysgwyd yn sgil y Cynllun fod o ddefnydd i ddarpar-reolwyr a gweithwyr mewn cynlluniau tymor byr, yn enwedig pan fyddai'r prosiectau hynny'n cynnwys sefydliadau o'r sector gwirfoddol. Er na
Iwyddodd y Cynllun i gyflawni holl obeithion na derbynnydd y grant na'r noddwr chwaith ni ellir anwybyddu'r cyfraniad sylweddol a wnaed.
Dyddiad Dyfarnu | Mai 1993 |
---|---|
Iaith wreiddiol | Cymraeg |