Crynodeb
Nod yr ymchwil hon oedd deall arferion o ran ymgysylltu â goroeswyr ar hyn o bryd o fewn sector Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV) Cymru, a
chlywed ganddyn nhw.
Gweithiodd Prifysgol De Cymru (PDC) gyda thîm VAWDASV Llywodraeth Cymru (LlC) mewn partneriaeth a sefydlwyd trwy Rwydwaith Ymchwil VAWDASV Cymru. Arweiniwyd tîm yr astudiaeth gan Dr Sarah Wallace (Prifysgol De Cymru) gyda'r Athro Emily Underwood-Lee (PDC), Amy Jones (LlC), a Rebecca Griffiths (LlC).
Mae Rhwydwaith Ymchwil VAWDASV Cymru wedi ymrwymo i archwilio'r ffordd orau y gallwn ymgysylltu â goroeswyr yn ein gwaith, a chlywed ganddyn nhw. Mae LlC hefyd wedi amlinellu eu hymrwymiad i greu Glasbrint Ymgysylltu â Goroeswyr yn Strategaeth Genedlaethol VAWDASV LlC (2022-26). 2 Oherwydd ein diddordeb cyffredin mewn deall arferion ymgysylltu â goroeswyr, daeth tîm VAWDASV LlC a Rhwydwaith Ymchwil VAWDASV Cymru at ei gilydd i gynnal arolwg gyda'r darparwyr gwasanaethau a gweithwyr proffesiynol sector VAWDASV.

Iaith wreiddiol | Cymraeg |
---|---|
Cyhoeddwr | University of South Wales |
Nifer y tudalennau | 23 |
Statws | Cyhoeddwyd - Medi 2022 |