Crynodeb
Trafoda'r erthygl gwestiynau a gododd yn sgil llunio Gwlad yr Asyn, sef drama lwyfan ar ffurf monolog. Cafodd y ddrama ei hysgrifennu fel ymateb gwrthimperialaidd Cymreig i destun canonaidd Shakespeare, The Tempest. Yn gyntaf, ystyria'r erthygl y diffyg traddodiad a geir yng Nghymru o ysgrifennu dramâu gwrthddisgwrs Shakespearaidd o safbwynt Cymreig, cyn canolbwyntio ar y cwestiwn o beth a ddylai nodweddu'r ddrama ôl-drefedigaethol Gymreig. Dadleua y dylai gyfleu 'golwg ddeublyg', hynny yw, cydnabod bod gan Gymru etifeddiaeth o naill ochr y rhaniad imperialaidd: gwlad a gafodd ei gwladychu ond sydd hefyd wedi gwladychu.
Cyfieithiad o deitl y cyfraniad | Gwlad yr Asyn and double vision: defining the postcolonial Welsh play |
---|---|
Iaith wreiddiol | Cymraeg |
Rhif yr erthygl | 2 |
Tudalennau (o-i) | 31-58 |
Nifer y tudalennau | 27 |
Cyfnodolyn | Gwerddon |
Rhif cyhoeddi | 31 |
Statws | Cyhoeddwyd - 30 Hyd 2020 |
Allweddeiriau
- drama
- ôl-drefedigaethol
- The Tempest
- Shakespeare
- Ysgrifennu creadigol
- Gwlad yr Asyn