Gwlad yr Asyn

Wyn Mason

    Allbwn ymchwil: Cyfraniad arall

    Crynodeb

    Mae Ari yn asyn ifanc sy'n credu bod hi'n berson: mae hi'n ceisio osgoi cwmni asynnod eraill a breuddwydio am fod yn fod dynol. Sioe un fenyw yw Donkeyland sy'n archwilio'r themâu o hunaniaeth, annibyniaeth a'r berthynas ecsbloetiol rhwng dynoliaeth ac anifeiliaid. Mae'r ddrama yn lled-addasiad o The Tempest gan Shakespeare, lle mae cymeriadau Ariel a Caliban yn asynnod, a'u perchnogion yn ddynol: tad a merch, Prospero a Miranda. Mae yna ddau nod i'r darn: ail-ystyried drama Shakespeare o safbwynt Cymreig ac eco-ganolog. Mae'r ddrama yn gosod cymeriadau archdeipaidd The Tempest yng nghyd-destun Cymru ôl-drefedigaethol; ac, yn yr un modd, wrth ganolbwyntio ar y berthynas rhwng pobl ac anifeiliaid, mae'r darn hefyd yn ystyried y pryder ehangach, ecolegol o sut mae dynoliaeth yn parhau i ecsboletio natur.
    Cyfieithiad o deitl y cyfraniadDonkeyland
    Iaith wreiddiolCymraeg
    Mathdrama
    Nifer y tudalennau60
    StatwsYn cael ei baratoi - Awst 2020

    Allweddeiriau

    • drama
    • ôl-drefedigaethol
    • Shakespeare
    • The Tempest

    Dyfynnu hyn