Dulliau Ymchwil: ar gyfer Myfyrwyr Busnes, Rheolwyr ac Entrepreneuriaid

Rami Djebarni

    Allbwn ymchwil: Llyfr/AdroddiadLlyfradolygiad gan gymheiriaid

    Crynodeb

    Cyhoeddwyd ‘Dulliau Ymchwil ar gyfer Myfyrwyr Busnes, Rheolwyr ac Entreprenuriaid’ gan Brifysgol De Cymru ac mae’n lyfr rhyngweithiol, aml-gyfrwng sy’n sail ar gyfer ymchwil academaidd ac ar gyfer defnydd ymarferol mewn amgylchedd busnes.
    Mae fideo, sain a delweddau yn dod a’r cysyniadau allweddol yn fyw, tra bo astudiaeth achos manwl yn rhedeg drwy’r llyfr yn dilyn profiadau myfyriwr (dychmygol) i weld sut mae hi yn mynd ati i wynebu’r heriau a’r anghenion sy’n codi ar wahanol adegau yn ei phrosiect ymchwil. Mewn mannau penodol yn y prif destun cyflwynir gweithgaredd adfyfyriol i annog y darllenydd i ystyried neu edrych yn ddyfnach ar yr agwedd dan sylw.
    Mae’r llyfr rhyngweithiol hwn yn cyfateb i fodiwl cyfan o astudio ar lefel Meistr (yn y DU) ac yn ganlyniad cydweithio rhwng ystod eang o staff academaidd a phroffesiynol ym Mhrifysgol De Cymru. Hefyd mae modd lawrlwytho’r animeiddiadau fideo o safle Prifysgol De Cymru ar iTunes U.
    Mae’r fersiwn Gymraeg yma o’r llyfr yn ganlyniad cydweithio rhwng Prifysgol De Cymru a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
    Iaith wreiddiolCymraeg
    CyhoeddwrUSW / UOG
    Nifer y tudalennau182
    ISBN (Electronig)978-1909838185
    StatwsCyhoeddwyd - 31 Mai 2016

    Dyfynnu hyn