Datblygu disgwrs cyfrwng Cymraeg yn wyneb hegemoni disgyblaethol Eingl-Americanaidd: Developing a Welsh discourse in the context of Anglo-American disciplinary hegemony

Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gynhadleddPapuradolygiad gan gymheiriaid

Crynodeb

Fe’n hatgoffir yn aml bod Astudiaethau Theatr yn faes sydd â’i wreiddiau (yn y byd gorllewinol o leiaf) mewn agweddau diwylliannol Eingl-Americanaidd. Cyfeirir yn aml at ddiffyg terminoleg ac at y cymhwysiad o dermau o’r Saesneg er mwyn disgrifio’r weithgaredd sylfaenol sydd wrth fôn yr astudiaeth - ‘theatr’, ‘drama’ a ‘pherfformiad’ - er nad Saesneg yw eu gwreiddyn, yn etymolegol. Y byrdwn yw bod maes Astudiaethau Theatr wedi ei lunio yn nhermau copi o’r astudiaeth a leolir mewn cyd-destun Eingl-Americanaidd, neu i raddau llai, mewn cyd-destun Ewropeaidd mwyafrifol (Ffrangeg, Almaeneg ayyb). Ar yr un pryd, mae perfformiadau diwylliannol y Cymry yn amlygu agweddau cynhenid ar yr hyn yw theatr a pherfformiad yn ei amrywiol ffurfiau. Mae’r papur hwn yn olrhain y broses gysyniadol ac ymarferol o lunio gradd Theatr a Drama yn y Gymraeg fel ymateb i dirlun neilltuol y Gymry Gymraeg fel endid ‘lleiafrifol’ mewn cyd-destun rhyngwladol. Eir ati i drafod rhai o’r problemau penodol sydd ynghlwm wrth greu cyd-destun astudio cyfrwng Cymraeg a maes llafur nad yw’n gopi eilradd o’r Saesneg cyfatebol. Archwilir y tensiynau, yr heriau a’r posibiliadau creadigol sydd ynghlwm wrth y fath fenter, a holir a yw’n cynnig posibiliadau ar gyfer disgyblaethau y tu hwnt i’r rheiny a ystyrir yn rhai diwylliannol-benodol? A all llunio cwricwlwm sy’n atebol i faterion iaith a hunaniaeth leiafrifol ein rhyddhau o hualau prif naratif gormesol? Sut mae cynnal cyd-destun dysgu ac addysgu cymwys o’r fath pan fo’r broses o ddarparu deunyddiau yn ei dyddiau cynnar? At hynny, sut y gellir cynnal y drafodaeth ar lefel ryngwladol?
Iaith wreiddiolCymraeg
StatwsCyhoeddwyd - 2014
DigwyddiadCynhadledd: Cynhadledd Ryngwladol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol 'Pa le i'n hiaith mewn addysg uwch?' - Canolfan Mileniwm Cymru/Wales Millennium Centre, Cardiff, Caerdydd
Hyd: 1 Gorff 20143 Gorff 2014

Cynhadledd

CynhadleddCynhadledd
Teitl crynoColeg International Conference
DinasCaerdydd
Cyfnod1/07/143/07/14

Allweddeiriau

  • yr iaith Gymraeg
  • addysg uwch
  • hegemoni disgyblaethol
  • theatr a pherfformiad

Dyfynnu hyn