Crynodeb
Fel rhan o fyd sydd wedi’i globaleiddio, mae arweinwyr Cymru fodern yn defnyddio amryw o arddulliau i arwain a rheoli. Yn aml mae technegau rheoli wedi’u datblygu mewn gwledydd arall gyda diwylliannau a byd-olwg gwahanol. O fewn diwydiant, gwleidyddiaeth, chwaraeon, a meysydd eraill, mae technegau rheoli ac arwain yn ddibynnol ar ddiwylliant. Mae’r gwaith yma yn gofyn sut mae meddylfryd Cymreig wedi effeithio, ac yn effeithio ar arddull arweinwyr mewn meysydd fel busnes, gwleidyddiaeth, a chwaraeon. Wrth archwilio ffynonellau hanesyddol fel diarhebion Cymraeg a llyfrau'r Mabinogi byddwn yn ymchwilio a oes arddull Cymreig i arweiniant a rheolaeth. Byddwn yn cymharu’r canlyniadau i syniadau a dulliau arweiniant a rheolaeth gyfoes.
Iaith wreiddiol | Saesneg |
---|---|
Statws | Cyhoeddwyd - 30 Meh 2023 |
Digwyddiad | Cynhadledd Ymchwil Coleg Cymraeg Cenedlaethol - Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, Y Deyrnas Unedig Hyd: 29 Meh 2023 → 30 Meh 2023 |
Cynhadledd
Cynhadledd | Cynhadledd Ymchwil Coleg Cymraeg Cenedlaethol |
---|---|
Gwlad/Tiriogaeth | Y Deyrnas Unedig |
Dinas | Aberystwyth |
Cyfnod | 29/06/23 → 30/06/23 |