Bocsio Menywod yng Nghymru – y Gorffennol, y Presennol a’r Dyfodol (WBW)

Manylion y Prosiect

Disgrifiad

Mae Bocsio Menywod yng Nghymru – y Gorffennol, y Presennol a’r Dyfodol (WBW) yn brosiect treftadaeth chwaraeon dan arweiniad Dr Sarah Crews. Mae'r prosiect yn tynnu ar ymchwil Sarah gyda bocswyr benywaidd, ac yn ceisio dogfennu hanes amgen bocsio Cymreig: un sy'n dathlu cyfranogiad benywaidd mewn camp lle mae dynion wedi tra-arglwyddiaethu’n hanesyddol.

Mae WBW yn datblygu ymchwil Sarah ar focsio menywod ymhellach, mewn mwy o fanylder. Mae ei chyfraniadau at brosiectau a ysgrifennwyd ar y cyd fel Boxing and Performance: Memetic Hauntings and Boxing, Narrative and Culture: Critical Perspectives yn ymwneud yn bennaf â sut mae bocswyr benywaidd (y gorffennol a’r presennol) yn deall y gwaith maent yn ei wneud, a sut mae gwaith bocswyr benywaidd yn cael ei adrodd drwy drafodaeth boblogaidd.

Nod craidd gwaith Sarah yw amrywio naratifau bocsio, dathlu cyfraniadau cyfranogwyr benywaidd mewn bocsio, a chyfrannu tuag at drafodaethau cydraddoldeb, cynhwysiant a chyfiawnder cymdeithasol, yn enwedig mewn perthynas â chanfyddiadau o rywedd, dosbarth a hil.

Mae'r prosiect hwn yn cael ei ariannu gan y Loteri Genedlaethol.
StatwsWrthi'n gweithredu
Dyddiad cychwyn/gorffen dod i rym1/01/22 → …