Manylion y Prosiect
Disgrifiad
Mae'r mantled howler (Alouatta palliata), mwnci mawr sy'n adnabyddus am ei rhuadau ffyrnig, yn wynebu bygythiad sylweddol oherwydd ehangiad dynol. Mae'r rhywogaeth wedi’i dosbarthu fel ‘Dan Fygythiad’ ar Restr Goch yr Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur, gyda datgoedwigo ac isadeiledd fel heolydd yn dinistrio eu cynefin. Mae'r mwncïod hyn sy'n byw mewn coed yn aml yn croesi heolydd ar wifrau trydanol, gan achosi’r risg o drydanladdiadau a chwympiadau.
I fynd i'r afael â hyn, mae PDC yn gweithio gyda phartneriaid yng Nghosta Rica i gyflwyno pontydd mwnci - llwybrau rhaff a gynlluniwyd i ailgysylltu coed a lleihau marwolaethau. Hyd yn hyn, rydym wedi gosod 11 o bontydd rhaff ar ffurf ysgol dros heolydd prysur. Caiff y pontydd hyn eu monitro gyda chamerâu cudd a gwyliadwriaeth uniongyrchol i werthuso pa mor dda y maent yn gweithio a sut y gellid eu gwella.
Er bod y pontydd wedi'u cynllunio ar gyfer howlers, rydym hefyd wedi arsylwi mwncïod cycyllog, gwiwerod amryliw, ac efallai posymod gwlanog yn defnyddio'r strwythurau. Nod y prosiect hwn yw darparu ffordd ymarferol o ddiogelu bywyd gwyllt sy'n cyd-fyw â bodau dynol.

Statws | Wrthi'n gweithredu |
---|---|
Dyddiad cychwyn/gorffen dod i rym | 1/01/21 → … |