Manylion y Prosiect
Disgrifiad
Mae'r prosiect yn defnyddio celfyddydau creadigol i archwilio hanes y gyfnewidfa ddiwylliannol rhwng pobl Cymru a phobl Casi gogledd-ddwyrain India a wreiddir yn hanes Cenhadaeth Dramor y Methodistiaid Calfinaidd Cymreig ym Mryniau Casia rhwng 1841 ac 1969. Defnyddir celfyddydau creadigol fel modd o adeiladu 'deialog ddiwylliannol' rhwng ysgolheigion creadigol o Gymru ac India - deialog sy'n archwilio ac yn ymateb i'n perthynas hanesyddol.
Y prif nod yw archwilio’r modd y mae hanes diwylliannol a rennir rhwng gwahanol bobloedd yn ffurfio hunaniaethau yn y byd modern.
Cafodd y berthynas ryngddiwylliannol Gymreig-Casi ei sianelu drwy lwybrau a chyfryngau penodol, fel cred ac arferion crefyddol, ysgrifau gan fenywod ynglŷn â’u profiadau, amrywiol draddodiadau llenyddol a gweledol, a hanesion llafar. Mae'r ymchwil yn dilyn y cwestiynau a gyfyd wrth ystyried y gweithiau hyn, e.e. drwy archwilio'r modd mae'r gyfnewidfa ddiwylliannol yn amlygu'i hun mewn perthynas ac arferion crefyddol neu fynegiant diwylliannol gan fenywod. Yn ogystal â hyn archwilir materion ehangach, megis y modd y mae sefyllfa ymylol pobl Cymru a Chasia (mewn perthynas â chategorïau ehangach fel yr Ymerodraeth Brydeinig a chenedl India) wedi effeithio ar natur y gyfnewidfa ddiwylliannol.
Canlyniadau: Yn ogystal a pherfformiadau byw, ffilmiau byrion ac arddangosfa a fydd yn digwydd tua diwedd 2019, cyhoeddir canlyniadau mewn papurau cynhadledd ac amrywiaeth o gyfnodolion ysgolheigaidd.

Statws | Wedi gorffen |
---|---|
Dyddiad cychwyn/gorffen dod i rym | 1/01/16 → 31/12/19 |
Dolenni cyswllt | http://www.welshkhasidialogues.co.uk |