Manylion y Prosiect

Disgrifiad

Mae tai yn ffocws allweddol ym mholisi Cymru, sydd wedi’i amlygu yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Un o nodau tai’r Ddeddf yw ymgorffori Technoleg Cartref Clyfar—fel thermostatau clyfar, goleuadau, a systemau diogelwch—mewn cartrefi ledled Cymru. Nod hyn yw helpu pobl i fyw'n annibynnol yn hirach a lleihau'r ddibyniaeth ar gymorth y wladwriaeth.

Mae landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ac awdurdodau lleol yn integreiddio’r dechnoleg hon yn gynyddol i fynd i’r afael â heriau fel targedau Sero Net, cynaliadwyedd tai, a phoblogaeth sy’n heneiddio. Fodd bynnag, prin yw’r ymchwil sy’n bodoli ar ganfyddiad tenantiaid tai cymdeithasol o Dechnoleg Cartref Clyfar, yn enwedig o ran ei heffeithiau ariannol ac iechyd.

Nod y prosiect hwn yw meithrin gwybodaeth am dderbyniad tenantiaid trwy ddau weithgaredd: adolygiad systematig o lenyddiaeth a digwyddiad ar draws y sector i archwilio'r rhwystrau a'r hwyluswyr i fabwysiadu technoleg.
StatwsWrthi'n gweithredu
Dyddiad cychwyn/gorffen dod i rym1/10/2431/03/25