Cyfrifiad Diwydiannau Sgrin

  • Hannah, Faye (!!PI)

Manylion y Prosiect

Disgrifiad

Bydd y Cyfrifiad Diwydiannau Sgrin cyntaf ar gyfer Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn edrych ar ddarpariaeth hyfforddiant a chynhyrchiant y diwydiannau sgrîn yn cael ei gynnal gan Brifysgol De Cymru mewn partneriaeth â Clwstwr.

Mae'r ymchwil yn canolbwyntio ar Ffilm, Teledu Pen Ucha’r Farchnad, Teledu, Gemau, Animeiddio, VFX ac Ôl-gynhyrchu.

Mae'r diwydiant yng Nghymru wedi tynnu sylw at bwysigrwydd datblygu’r data sectoraidd hwn ers cryn amser, yn anad dim mewn tystiolaeth a roddwyd gan y sector fel rhan o Ymchwiliad i Gynyrchiadau Ffilm a Theledu Mawr yng Nghymru (2019) Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Bydd yr ymchwil yn cynhyrchu data manwl ar ddemograffeg diwydiant a sgiliau gan ganolbwyntio ar dwf ac arloesedd.

Fel rhan o'r ymchwil hon, bydd dau arolwg yn cael eu rhyddhau ar yr un pryd. Bydd y cyntaf ar gyfer darpariaeth hyfforddiant ôl-16 y diwydiannau sgrin. Bydd yr ail wedi ei anelu at y sector cynhyrchu er mwyn mapio sefydliadau a gweithwyr llawrydd.

Bydd data a gesglir drwy'r Cyfrifiad Diwydiant Sgrin 2020 yn mapio maint a siâp y diwydiannau sgrin, i ddechrau yn ardal ddaearyddol CCR gyda chyhoeddi adroddiad y Cyfrifiad Sgrin yn Hydref 2020. Bydd y Cyfrifiad yn cynnig trosolwg a meincnod cynhwysfawr am y tro cyntaf o bwy sy'n bodoli. Cynhelir yr ymchwil gan y Ganolfan Astudio’r Cyfryngau a Diwylliant mewn Cenhedloedd Bach ym Mhrifysgol De Cymru.
StatwsWedi gorffen
Dyddiad cychwyn/gorffen dod i rym1/01/2031/12/20