Manylion y Prosiect
Disgrifiad
Prif amcan yr ymchwil yw cael gwybodaeth a fydd yn helpu i achub bywydau a lleihau niwed sy'n gysylltiedig â defnyddio sylweddau ymhlith pobl yn y carchar ac ar ôl iddynt gael eu rhyddhau. Bydd yr ymchwil hon yn bennaf yn ansoddol ei natur ac yn seiliedig ar ddull ffenomenolegol. Byddwn yn cynnal cyfweliadau lled-strwythuredig gyda chyfanswm o 60 o gyfranogwyr. Mae'r prosiect ymchwil yn cynnwys dau becyn gwaith.
Bydd Pecyn Gwaith 1 yn parhau dros y pum mis cyntaf a bydd yn cynnwys adolygiad systematig cyflym a fydd yn cael ei gynnal ar yr un pryd â chaniatâd ymchwil a chymeradwyaeth foesegol. Bydd y 18 mis sy'n weddill yn cael ei ddyrannu i Becyn Gwaith 2 sef yr ymchwil ansoddol, gyda misoedd 6-18 ar gyfer casglu data a'r 6 mis sy'n weddill ar gyfer dadansoddiadau terfynol ac ysgrifennu’r ymchwil.

| Statws | Wrthi'n gweithredu |
|---|---|
| Dyddiad cychwyn/gorffen dod i rym | 1/10/24 → 30/09/26 |
Ôl bys
Archwilio’r pynciau ymchwil mae a wnelo'r prosiect hwn â nhw. Mae’r labelau hyn yn cael eu cynhyrchu’n seiliedig ar y dyfarniadau/grantiau sylfaenol. Gyda’i gilydd maen nhw’n ffurfio ôl bys unigryw.