Effeithio Polisi Cerddoriaeth y Diwydiannau Cerddoriaeth

  • Carr, Paul (!!PI)

Manylion y Prosiect

Disgrifiad

Ar sail y prosiect Hanes Cerddoriaeth Boblogaidd ym Merthyr Tudful a’r adroddiad polisi ar y diwydiant cerddoriaeth byw a gwblhaodd yn 2011 ar gyfer y Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig, dechreuodd yr Athro Paul Carr ar nifer o weithgareddau blaengar er mwyn effeithio ar bolisi cerddoriaeth yng Nghymru. Yn gyntaf, cafwyd adroddiad a gomisiynwyd gan Rhiannon Passmore AC yn 2018 ar ddirywiad dysgu offerynnol yng Nghymru. Fe’i lansiwyd yng Ngholeg brenhinol Cerdd a Drama Cymru gyda chefnogaeth Syr Karl Jenkins, a dylanwadodd ar syniadau Llywodraeth Cymru ynglyn â dyfodol addysg cerddoriaeth yng Nghymru.

Dilynwyd hyn gan olygyddiaeth wâdd y cyfnodolyn Popular Music Education a rhifyn yn archwilio’n benodol y tirlun cerddoriaeth boblogaidd yng Nghymru a sut mae angen iddo fanteisio ar adolygiad yr Athro Graham Donaldson ‘Dyfodol Llwyddiannus’. Defnyddiwyd gwybodaeth o’r cyfnodolyn, oedd yn cynnwys chwe erthygl academaidd a saith astudiaeth achos, yn nhrafodaethau Carr fel rhan o weithgor addysg cerddoriaeth Llwyodraeth Cymru, yn ogystal â’r dystiolaeth lafar a roddodd i’r Pwyllgor Diwylliant, Y Gymraeg a Chyfathrebu a’i ymholiad i Gerddoriaeth Byw. Trwy gyfrwng argymhellion Carr yn adroddiad Pwyllgor Diwylliant, Y Gymraeg a Chyfathrebu, Turn Up the Volume (2020), cytunodd Llywodraeth Cymru i sicrhau bod cerddoriaeth gyfoes yn cael ei ddysgu mewn ysgolion yn y cwricwlwm newydd (Argymhelliad 13).

Mewn perthynas â’r ymholiad uchod i gerddoriaeth byw, yn 2020 comisynwyd Carr, fel rhan o Gynllun Cymrodoriaeth Academaidd y Senedd, i ddogfennu adroddiad beirniadol yn cynghori sut y gallai’r diwydiannau cerddoriaeth byw yng Nghymru gael eu hadfer yn dilyn Covid-19. Dylanwadodd yr adroddiad hwn yn uniongyrchol ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Y Gymraeg a Chyfathrebu, Turn Up The Volume, yn ogystal ac ymateb Llywodraeth Cymru iddo.

Ar gefn symposiwm, oedd yn archwilio sut mae polisïau cerddoriaeth cenhedloedd ar draws Ewrop wedi effeitho ar eu diwydiannau cerddoriaeth, mae Carr bellach yn paratoi rhifyn ddwbwl o’r cyfnodolyn, Journal of World Popular Music, y bwriedir ei argraffu yn 2022.

Mae pedwar llinyn y prosiect hwn wedi ceisio trawsnewid polisi’r llywodraeth drwy sicrhau bod cerddoriaeth boblogaidd yn cael ei gynnwys yn y cwricwlwm cerddoriaeth yng Nghymru, a’i fod yn cael ei asesu mewn modd cymwys. Ceisiodd y prosiect gynnig cyngor arbenigol i’r Pwyllgor Diwylliant, Y Gymraeg a Chyfathrebu a Llywodraeth Cymru ar sut y gall y diwydiannau cerddoriaeth yng Nghymru gael eu hadfer yn effeithiol yn dilyn pandemig Covid-19.
StatwsWedi gorffen
Dyddiad cychwyn/gorffen dod i rym1/03/1831/12/22