Byrddau Crwn y Diwydiant i drafod Tegwch rhwng y Rhywiau mewn Gweithleoedd yng Nghymru

Manylion y Prosiect

Disgrifiad

Mae tîm ymchwil yn ymchwilio i’r rhwystrau y mae menywod yn eu hwynebu wrth symud ymlaen i rolau arwain ar draws diwydiannau, trwy gyfres o gyfarfodydd bwrdd crwn gydag uwch aelodau o’r diwydiant ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd, gan gyd-fynd ag SDG 5: Cydraddoldeb Rhywiol. Mewn cydweithrediad â Chydffederasiwn Diwydiant Prydain (CBI), mae’r tîm yn cynnal ymholiadau o ran sut mae tri mater allweddol yn effeithio ar degwch rhwng y rhywiau mewn gweithleoedd modern yng Nghymru: aflonyddu rhywiol a’r Ddeddf Diogelu Gweithwyr, gweithio hyblyg, a gofal plant.

Mae’r ymchwil, a ariennir gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru, yn cael ei throi’n gyfres o bodlediadau i wneud y canfyddiadau’n hygyrch i fusnesau o bob maint a sector, a gweithwyr ar bob lefel o’r ysgol yrfa.
StatwsWrthi'n gweithredu
Dyddiad cychwyn/gorffen dod i rym1/01/2531/05/25