Manylion y Prosiect
Disgrifiad
Prif nod y gwerthusiad hwn yw asesu effaith sefydliadol Swyddogion Defnydd Sylweddau yng Ngwasanaeth Prawf Cymru. Mae'r gwerthusiad yn cael ei lywio a'i arwain gan bobl sydd â phrofiad o weithio yn y gwasanaethau prawf. Yn ymarferol, bydd y gwerthusiad yn cynnwys dwy ran: gwerthuso’r broses a gwerthuso’r effaith. Bydd gwerthuso'r broses yn ystyried sut, yn ymarferol, y gweithredwyd Swyddogion Defnydd Sylweddau a pha mor effeithlon y maent yn gweithredu o safbwynt ymarferwyr a rheolwyr. Bydd gwerthuso’r effaith yn asesu o safbwynt ymarferwyr a rheolwyr prawf, a yw amcanion craidd Swyddogion Defnydd Sylweddau yn cael eu cyflawni.
Statws | Wedi gorffen |
---|---|
Dyddiad cychwyn/gorffen dod i rym | 1/10/23 → 31/01/25 |