Manylion y Prosiect

Disgrifiad

Mae'r ymchwil hon yn werthusiad o brosiect 360 CNPT Abertawe. Partneriaeth amlasiantaeth yw hon, sy’n cynnwys therapi galwedigaethol, ac sy'n cefnogi pobl sydd â'r anghenion mwyaf cymhleth, gan gynnwys y rhai sy'n cael eu rhyddhau o'r ddalfa, i leihau'r risg o ddigartrefedd. Efallai y bydd anghenion cymhleth gan bobl a oedd yn y carchar yn y gorffennol, fel dibyniaeth ar sylweddau, salwch cronig, anableddau dysgu, a phryderon iechyd meddwl a thrawma blaenorol (Page, 2017; GOV.UK, 2021; Kosc a Kirk, 2024).

Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu dull sy'n ystyriol o drawma ar gyfer y gwerthusiad hwn, ac rydym wedi bod yn datblygu dulliau arloesol a hygyrch o asesu. Yn ogystal ag ymgysylltu ag ymchwilwyr cymheiriaid i hwyluso cyfweliadau, rydym yn datblygu efelychiad drwy gyfres o weithdai i archwilio effaith 360 ar benderfyniadau. Ynghyd â chyfweliadau safonol ac arolwg ar-lein, mae'r dulliau hyn yn asesu gweithrediad a chyflwyniad y prosiect a'i ymyriadau (gwerthusiad prosesau) a'r effaith ar ddefnyddwyr (gwerthusiad canlyniadau).

"Un o’r egwyddorion sy’n gyrru Prosiect 360 CNPT Abertawe yw darparu cymorth sy’n dosturiol ac yn ystyriol o drawma. Mae PDC wedi cadw tosturi wrth wraidd eu methodolegau ac wedi dod o hyd i ffyrdd arloesol o fonitro ein prosiect heb fod yn faich ar ein buddiolwyr. Mae'r bartneriaeth hon hefyd wedi rhoi cyfle cyffrous i ni ddefnyddio technoleg arloesol, nad yw erioed wedi'i defnyddio o fewn gwasanaethau digartrefedd, i werthuso effeithiolrwydd ein prosiect. Rydym wrth ein bodd yn bod yn rhan o fudiad sy'n paratoi'r ffordd ar gyfer arferion ymchwil newydd, gwell, yn ein sector." (Staff 360)
StatwsWrthi'n gweithredu
Dyddiad cychwyn/gorffen dod i rym1/06/2230/06/27