Clwstw

  • McElroy, Ruth (!!Col)
  • Lewis, Justin (!!Col)
  • Evans, Jarred (!!Col)

Manylion y Prosiect

Disgrifiad

Mae Clwstwr yn un o’r 9 canolfan yn y DU ar gyfer Ymchwil a Datblygu a ariennir gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau a’i Raglen Clystyrau’r Diwydiannau Creadigol. Nod Clwstwr yw sicrhau bod arloesedd wrth wraidd cynhyrchu’r cyfryngau yn Ne Cymru - gan symud y sector sgrin o sefyllfa o gryfder i un sy’n arwain yn rhyngwladol.

Dyma’r buddsoddiad cyntaf o’i fath gan y llywodraeth yn niwydiannau creadigol bywiog y DU, sydd o bwysigrwydd byd-eang, a’r mwyaf sylweddol i’r Cyngor Ymchwil ei sicrhau erioed. Mae’n rhan o Gronfa Her y Strategaeth Ddiwydiannol a ddarperir gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau ar ran Ymchwil ac Arloesi’r DU. Mae Clwstwr yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru, sy’n cyd-ariannu ein rhaglen o fwy na 60 prosiect Ymchwil a Datblygu.

Wedi’i leoli ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd, mae Clwstwr yn gweithio’n gydweithredol gydag ystod o bartneriaid diwydiannol a sefydliadau angorol fel y BBC, S4C, Cyngor Celfyddydau Cymru, Ffilm Cymru Wales a Cyngor Dinas Caerdydd i gyllido a chreu arloesedd yn sectorau sgrîn a newyddion y rhanbarth.

Mae Clwstwr yn brosiect Ymchwil a Datblygu cydweithredol rhwng tair prifysgol y brifddinas, sef Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Metropolitan Caerdydd a Phrifysgol De Cymru. Mae tîm o 10 o gyd-ymchwilwyr o’r tair prifysgol, wedi’i arwain gan yr Athro Ruth McElroy, yn cyflawni’r ymchwil sy’n sylfaenol i feysydd heriol rhaglen Clwstwr gan weithio’n agos gyda phob prosiect unigol a gyllidir er mwyn hysbysu’r broses Ymchwil a Datblygu.

StatwsWedi gorffen
Dyddiad cychwyn/gorffen dod i rym1/01/1831/12/23