Manylion y Prosiect
Disgrifiad
Mae prosiect Storïau Bawso yn brosiect partneriaeth arloesol rhwng Canolfan Adrodd Storïau Geroge Ewart Evans Prifysgol De Cymru (PDC), sefydliad arbenigol cam-drin domestig Bawso, ac Amgueddfa Cymru. Gan drawsnewid y ffyrdd y deallir treftadaeth Cymru, ei chadw a'i chynrychioli, rhannodd defnyddwyr gwasanaethau sydd wedi cael cefnogaeth Bawso eu storïau gydag ymchwilwyr o Brifysgol De Cymru a'u harchifo gan yr Amgueddfa a, lle bo'n briodol, ar gael i'r cyhoedd fel rhan o ddehongliad amgueddfeydd ac archif ar-lein Casgliad y Werin Cymru.
Mae Bawso yn darparu gwasanaethau atal, amddiffyn a chymorth ymarferol ac emosiynol i Leiafrifoedd Du Ethnig (BME) a dioddefwyr mudol Cam-drin Domestig, Trais Rhywiol, Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod, Priodas dan Orfod , Trais ar sail Anrhydedd, Caethwasiaeth Fodern a Masnachu Pobl. Mae gan Gymru dreftadaeth gyfoethog o fudo sydd wedi'i dogfennu'n rhannol yn unig ac mae llawer o'r storïau gan bobl y mae eu mynediad i Gymru yn fwy cymhleth ar goll o'r hanesion hyn. Er eu bod yn awyddus i gael eu clywed, a chyda straeon diddorol ac amrywiol i'w hadrodd, ychydig iawn o gyfleoedd y mae pobl a gefnogir gan Bawso wedi’u cael i rannu ac archifo eu straeon ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Mae'r prosiect hwn yn rhoi llais a chynulleidfa i rai o storïau y bobl hynny sydd wedi cael cefnogaeth Bawso, gan greu gwell dealltwriaeth o dreftadaeth a hunaniaeth Cymru. Cafodd cyfanswm o 63 stori a hanes llafar, eu creu a'u harchifo yn ystod prosiect Storïau Bawso, y gellir gweld llawer ohonynt yn

Statws | Wedi gorffen |
---|---|
Dyddiad cychwyn/gorffen dod i rym | 1/09/23 → 31/01/25 |
Dolenni cyswllt | https://www.peoplescollection.wales/users/117801 |