Manylion y Prosiect
Disgrifiad
Mae 'Hanes Llafar Cyn-filwyr Profion Niwclear Prydain' yn defnyddio dull hanes bywyd i gofnodi cyfweliadau â phersonél yr awyrlu, y fyddin, sifiliaid a'r llynges a fu’n gwasanaethu yn nhreialon niwclear Prydain yn y 1950au a'r 60au.
Bydd recordiadau’r cyfweliadau yn cael eu hadneuo gyda’n partner ar y prosiect, National Life Stories y Llyfrgell Brydeinig. Bydd y cyfweliadau yn cael eu cynnal drwy fynediad agored ar British Library Sounds, lle byddant yn ffurfio'r archif cyntaf o’i bath o hanesion cyn-filwyr profion niwclear, gan roi profiadau ac atgofion y cyn-filwyr ar glawr a chadw er budd cenedlaethau’r dyfodol. Bydd y prosiect hefyd yn cynhyrchu wyth traethawd rhyngweithiol, adnoddau addysgu a ffilm sy'n adlewyrchu ethos hanes bywyd y prosiect.
Mae'r allbynnau’n cynnwys archif hanes llafar mynediad agored o 40 o gyfweliadau hanes bywyd ar British Library Sounds; wyth traethawd rhyngweithiol ar wefan National Life Stories; cynlluniau addysgu ac adnoddau ar gyfer Safon Uwch a TGAU; tair ffilm hanes bywyd; sawl erthygl, penodau llyfr a monograff gan Dr Fiona Bowler.

Statws | Wrthi'n gweithredu |
---|---|
Dyddiad cychwyn/gorffen dod i rym | 1/04/23 → 30/04/25 |
Dolenni cyswllt | https://www.ntvhistory.uk/ |