Dim llun o Sharmin Julie
20192024

Allbwn ymchwil fesul blwyddyn

Proffil personol

Diddordebau ymchwil

Mae fy ymchwil yn archwilio agweddau dynol y gadwyn gyflenwi a rheoli gweithrediadau, gyda phwyslais penodol ar logisteg ddyngarol ac arferion cadwyn gyflenwi gynaliadwy. Rwy'n canolbwyntio'n benodol ar integreiddio arferion cynaliadwy sy'n blaenoriaethu empathi, annibyniaeth a gwaith gweddus o fewn fframweithiau gweithredol. 

Rwy'n ymroddedig i gyfrannu'n ystyrlon at faes logisteg a rheoli gweithrediadau, gyda chysylltiad cryf â'r Nodau Datblygu Cynaliadwy (SDG). Ar hyn o bryd, rwy'n cymryd rhan mewn menter ymchwil sy'n anelu at feithrin noddfa a gwrth-hiliaeth trwy gydweithio â'r gymuned. Nod y prosiect hwn yw meithrin partneriaethau traws-sector a hybu newid cymdeithasol sylweddol, gan gyd-fynd â Nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, yn enwedig 'Cymru sy’n fwy cyfartal' a 'Cymru sy'n Gyfrifol ar lefel fyd-eang'.


Rwyf wedi cyflwyno fy ymchwil mewn cynadleddau rhyngwladol uchel eu parch fel y Rhwydwaith Ymchwil Logisteg (LRN), Symposiwm Logisteg Rhyngwladol (ISL), a Chymdeithas Rheoli Gweithrediadau Ewrop (EurOMA). Yn ogystal, mae fy ngwaith wedi cael ei gyhoeddi'n eang mewn cyfnodolion academaidd parchus.

Fel Cymrawd o'r Sefydliad Siartredig Logisteg a Thrafnidiaeth (CILT), rwy'n cymryd rhan weithredol mewn trafodaethau ar faterion byd-eang, gan gynnwys effeithiau sylweddol COVID-19 ar gadwyni cyflenwi.

Gyda chefndir rhyngddisgyblaethol cynhwysfawr, mae gen i PhD mewn Logisteg a Rheoli Gweithrediadau. Mae fy ngweithgareddau academaidd wedi'u gwreiddio'n ddwfn wrth archwilio'r rhyngweithiad cymhleth rhwng arferion gweithredol a lles cymdeithasol. 

Arbenigedd sy’n gysylltiedig â NDC y CU

Yn 2015, cytunodd gwladwriaethau sy’n aelodau'r Cenhedloedd Unedig ar 17 o Nodau Datblygu Cynaliadwy (NDC) byd-eang i ddod â thlodi i ben, diogelu’r blaned a sicrhau ffyniant i bawb. Mae gwaith y person hwn yn cyfrannu at y NDC canlynol:

  • NDC 8 - Gwaith Teilwng a Thwf Economaidd
  • NDC 9 - Diwydiant, Arloesi a Seilwaith

Ôl bys

Ewch i ganol y pynciau ymchwil lle mae Sharmin Julie ar waith. Mae’r labelau pwnc hyn yn dod o waith y person hwn. Gyda’i gilydd maen nhw’n ffurfio ôl bys unigryw.
  • 1 Proffiliau Tebyg

Cydweithrediadau a’r prif feysydd ymchwil yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf

Cydweithrediad allanol yn ddiweddar ar lefel gwlad/tiriogaeth. Plymiwch i mewn i'r manylion drwy glicio ar y dotiau neu