Llun o Jenny Maher
20092024

Allbwn ymchwil fesul blwyddyn

Proffil personol

Diddordebau ymchwil

Mae Dr Jenny Maher yn gweithio ym meysydd troseddeg a chyfiawnder troseddol, gyda chyfraniadau at wybodaeth mewn trais ac erledigaeth ieuenctid, cam-drin anifeiliaid a throseddau amgylcheddol.

 

Gan weithio ochr yn ochr ag ysgolheigion o ddisgyblaethau eraill, gan gynnwys y gwyddorau cymdeithasol a ffisegol a'r dyniaethau, mae Dr Maher wedi gweithio i gynyddu dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth o gam-drin anifeiliaid mewn troseddeg.

Mae gan Dr Maher brofiad helaeth o gynnal ymchwil gydweithredol gyda phartneriaid allanol. Yn nodedig, mae hi wedi cydweithio gyda’r RSPCA i werthuso trais ieuenctid yn erbyn anifeiliaid a’r defnydd o gŵn peryglus neu ‘statws’ mewn trosedd a thrais; ysgrifennu adroddiad ar fasnach anghyfreithlon cŵn bach i Senedd yr Alban a DEFRA; darparu tystiolaeth i Bwyllgor Dethol Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig y Llywodraeth ar bwnc smyglo anifeiliaid anwes; a chyd-ysgrifennu adroddiad i'r Comisiwn Ewropeaidd ar droseddau amgylcheddol, yn benodol, y fasnach bywyd gwyllt anghyfreithlon.

Mae cyhoeddiadau Dr Maher yn cynnwys: The Palgrave Handbook of Social Harm; Routledge International Handbook of Green Criminology; The Palgrave International Handbook of Animal Abuse Studies. Hi yw Prif Olygydd cyfres lyfrau Emerald ‘Animal Abuse Studies’ ac Is-lywydd Cyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol.

Arbenigedd sy’n gysylltiedig â NDC y CU

Yn 2015, cytunodd gwladwriaethau sy’n aelodau'r Cenhedloedd Unedig ar 17 o Nodau Datblygu Cynaliadwy (NDC) byd-eang i ddod â thlodi i ben, diogelu’r blaned a sicrhau ffyniant i bawb. Mae gwaith y person hwn yn cyfrannu at y NDC canlynol:

  • NDC 16 - Heddwch, Cyfiawnder a Sefydliadau Cadarn

Addysg / Cymwysterau academaidd

200, PhD, Angels with Dirty Faces: Youth Gangs and Troublesome Youth Groups

1 Medi 20041 Medi 2007

Dyddiad Dyfarnu: 2 Medi 2007

Allweddeiriau

  • H Social Sciences (General)

Ôl bys

Ewch i ganol y pynciau ymchwil lle mae Jenny Maher ar waith. Mae’r labelau pwnc hyn yn dod o waith y person hwn. Gyda’i gilydd maen nhw’n ffurfio ôl bys unigryw.
  • 1 Proffiliau Tebyg

Cydweithrediadau a’r prif feysydd ymchwil yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf

Cydweithrediad allanol yn ddiweddar ar lefel gwlad/tiriogaeth. Plymiwch i mewn i'r manylion drwy glicio ar y dotiau neu