20142022

Allbwn ymchwil fesul blwyddyn

Proffil personol

Diddordebau ymchwil

Rwy'n ficrobiolegydd moleciwlaidd sydd â phrofiad mewn geneteg a genomeg bacteril. Mae fy niddordebau ymchwil yn ymwneud â sut mae bacteria yn rhyngweithio â'i gilydd yn eu hamgylchedd, a sut mae rhai rhywogaethau'n dominyddu ac yn dileu cystadleuwyr. Mae fy mhrosiectau gweithredol presennol yn canolbwyntio ar halogiad microbaidd yr amgylchedd, defnyddio adnoddau cynaliadwy a datblygu ymwrthedd gwrthficrobaidd yn yr amgylchedd naturiol.

Rwyf wedi cyhoeddi gwaith ym meysydd darganfod gwrthfiotigau, ymwrthedd i wrthfiotigau, genomeg bacteriol a datblygu dewisiadau amgen i gyffuriau gwrthficrobaidd mewn bwydydd anifeiliaid. Rwyf wedi gweithio fel ymchwilydd ôl-ddoethurol BBSRC ym Mhrifysgol Caerdydd, ac wedi ennill fy PhD yng Ngholeg Imperial Llundain.

 

 

 

Diddordebau addysgu

Fi yw'r arweinydd modiwl ar gyfer 'Micro-organebau a Chlefydau' a 'Bioleg Fforensig a Microbioleg' ym Mlwyddyn 2, a modiwl Heriau Byd-eang mewn Clefydau Heintus ym Mlwyddyn 3.  Rwy'n rhedeg prosiectau myfyrwyr blwyddyn olaf sy'n canolbwyntio ar ficrobioleg. Rwy'n cyfrannu at addysgu ar fodiwlau eraill mewn meysydd fel geneteg, ystadegau a dysgu sgiliau.

Rwy'n ymgymryd ag ymchwil gwella ac gweithredu parhaus yn fy holl addysgu, gyda phwyslais arbennig ar ddatblygu sgiliau labordy a chynllunio cwricwlwm cynhwysol.

 

 

 

 

Arbenigedd sy’n gysylltiedig â NDC y CU

Yn 2015, cytunodd gwladwriaethau sy’n aelodau'r Cenhedloedd Unedig ar 17 o Nodau Datblygu Cynaliadwy (NDC) byd-eang i ddod â thlodi i ben, diogelu’r blaned a sicrhau ffyniant i bawb. Mae gwaith y person hwn yn cyfrannu at y NDC canlynol:

  • NDC 3 - Iechyd a Llesiant Da
  • NDC 6 - Dŵr Glân a Glanweithdra

Ôl bys

Ewch i ganol y pynciau ymchwil lle mae Cerith Jones ar waith. Mae’r labelau pwnc hyn yn dod o waith y person hwn. Gyda’i gilydd maen nhw’n ffurfio ôl bys unigryw.
  • 1 Proffiliau Tebyg

Cydweithrediadau a’r prif feysydd ymchwil yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf

Cydweithrediad allanol yn ddiweddar ar lefel gwlad/tiriogaeth. Plymiwch i mewn i'r manylion drwy glicio ar y dotiau neu