Grŵp Ymchwil ac Arloesi Polisi Cymdeithasol

Proffil y sefydliad

Proffil sefydliad

Mae'r Grŵp Ymchwil ac Arloesi Polisi Cymdeithasol yn cynhyrchu ymchwil ac arloesi blaengar, gan ddylanwadu ar bolisïau a gwella bywydau yng Nghymru, y DU ac yn fyd-eang. 

Drwy gydweithio effeithiol â phartneriaid mewn prifysgolion eraill, sefydliadau trydydd sector, cyrff cyhoeddus a llunwyr polisi, mae ein hymchwil yn gyson yn cyflawni canlyniadau gyda’r gorau yn y byd ac o bwys rhyngwladol.

Mae ein timau amlddisgyblaethol a rhyngddisgyblaethol arbenigol yn canolbwyntio ar: 

  • Lles, Anghydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol 
  • Amgylchedd a Chynaliadwyedd 
  • Datblygu Rhyngwladol a Pholisi Cymdeithasol Byd-eang 

Ymchwil Ôl-raddedig

Rydym yn croesawu ceisiadau am ymchwil ôl-raddedig yn un o'n meysydd arbenigedd. 

Gweithio gyda ni


Rydym yn angerddol am weithio gyda phartneriaid i fynd i’r afael â heriau’r byd go iawn. Mae ein harbenigwyr yn gweithio gyda sefydliadau o bob maint, ac o bob sector, i ddatblygu syniadau, cynhyrchion a gwasanaethau newydd sy'n datrys problem benodol. Rydym yn helpu llunwyr polisi i gasglu tystiolaeth i ddeall anghenion a phrofiadau sector neu ddiwydiant er mwyn llywio atebion yn well. 

 

Cyswllt

Arweinydd: Yr Athro Palash Kamruzzaman

Nodau Datblygu Cynaliadwy y CU

Yn 2015, cytunodd gwladwriaethau sy’n aelodau'r Cenhedloedd Unedig ar 17 o Nodau Datblygu Cynaliadwy (NDC) byd-eang i ddod â thlodi i ben, diogelu’r blaned a sicrhau ffyniant i bawb. Mae ein gwaith yn cyfrannu at y NDC canlynol:

  • NDC 1 - Dim Tlodi
  • NDC 2 - Dim Newyn
  • NDC 3 - Iechyd a Llesiant Da
  • NDC 4 - Addysg o Ansawdd
  • NDC 8 - Gwaith Teilwng a Thwf Economaidd
  • NDC 10 - Llai o Anghydraddoldeb
  • NDC 13 - Gweithredu ar y Newid yn yr Hinsawdd
  • NDC 16 - Heddwch, Cyfiawnder a Sefydliadau Cadarn
  • NDC 17 - Partneriaethau ar gyfer y Nodau

Cydweithrediadau a’r prif feysydd ymchwil yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf

Cydweithrediad allanol yn ddiweddar ar lefel gwlad/tiriogaeth. Plymiwch i mewn i'r manylion drwy glicio ar y dotiau neu