Grŵp Ymchwil ac Arloesi Troseddeg, Plismona a Diogelwch

Proffil y sefydliad

Proffil sefydliad

Mae'r Grŵp Ymchwil ac Arloesi Troseddeg, Plismona a Diogelwch yn cynhyrchu ymchwil a gydnabyddir yn fyd-eang sy'n gwella systemau cyfiawnder cymdeithasol a throseddol ac yn helpu i frwydro yn erbyn terfysgaeth, trais gwleidyddol, seiberdroseddu, a throseddau cyfundrefnol trawswladol.

Themau Ymchwil

  • Droseddeg
  • Plismona
  • Diogelwch rhyngwladol

Yn ategu'r themâu hyn mae dwy ganolfan ymchwil: Mae'r Ganolfan Troseddeg yn cynnal ymchwil effeithiol sy'n hyrwyddo gwell system cyfiawnder cymdeithasol a throseddol. Mae'r Ganolfan Ryngwladol Plismona a Diogelwch, canolfan hynaf ac uchaf ei pharch y DU, yn arwain llywodraethau'r DU a'r UE ar derfysgaeth, trais gwleidyddol, seiberdroseddu a throseddau cyfundrefnol trawswladol.

 

Ymchwil Ôl-raddedig

Rydym yn croesawu ceisiadau am ymchwil ôl-raddedig yn un o'n meysydd arbenigedd. 

Gweithio gyda ni


Rydym yn angerddol am weithio gyda phartneriaid i fynd i’r afael â heriau’r byd go iawn. Mae ein harbenigwyr yn gweithio gyda sefydliadau o bob maint, ac o bob sector, i ddatblygu syniadau, cynhyrchion a gwasanaethau newydd sy'n datrys problem benodol. Rydym yn helpu llunwyr polisi i gasglu tystiolaeth i ddeall anghenion a phrofiadau sector neu ddiwydiant er mwyn llywio atebion yn well. 

Cyswllt

Yr Athro Christian Kaunert

 

Cydweithrediadau a’r prif feysydd ymchwil yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf

Cydweithrediad allanol yn ddiweddar ar lefel gwlad/tiriogaeth. Plymiwch i mewn i'r manylion drwy glicio ar y dotiau neu